Mae busnes tirlunio a garddio o Abertawe yn blodeuo ar ôl sicrhau pecyn cyllid sydd wedi eu helpu i adeiladu ar eu sylfeini ar gyfer ffyniant hirdymor.
Mae Green Dream Concepts wedi elwa ar becyn cyllid gwerth £25,000 gan BCRS Business Loans, rheolwr cronfa’r Gronfa Benthyciadau Llai, Cronfa Buddsoddi i Gymru, a lansiwyd gan Fanc Busnes Prydain ddiwedd 2023. Mae’r cyllid wedi galluogi’r cwmni i fuddsoddi mewn fan ac offer newydd, tra hefyd yn ehangu eu gweithlu i'w galluogi i gynyddu llif arian o ochr cynnal a chadw'r busnes i ariannu'r ardal dylunio gardds sy'n tyfu.
Sefydlwyd Green Dream Concepts ar ddechrau’r flwyddyn gan gyn-filwr Catrawd yr Awyrlu Brenhinol, Will Thomas a chyn-filwr o’r Llynges Frenhinol, Matt Craven. Ar ôl hanner cyntaf prysur y flwyddyn gallai’r ddeuawd weld yn glir y potensial o ehangu eu gweithrediadau, ond roedd hyn yn gofyn am fuddsoddiad, ac felly trodd y pâr at Fenthyciadau Busnes BCRS a oedd yn eu helpu i sicrhau benthyciad trwy Gronfa Buddsoddi i Gymru.
Mae Will yn 34 oed ac o Orseinon, wedi gwasanaethu yng Nghatrawd yr Awyrlu Brenhinol sgwadronau 34 a 51 am dros 11 mlynedd yn egluro:
“Fe ddes i allan o’r Awyrlu ar ôl dioddef dau anaf sylweddol mewn cyfnod byr o amser. Ar ôl gwasanaethu mewn rolau sy’n canolbwyntio ar gynnal a chadw roeddwn i eisiau parhau â’m gyrfa ar y llwybr hwn a dechreuais ymgymryd ag amrywiaeth o rolau tirlunio a thrwy hyn cwrddais â Matt.”
Gyda'i gilydd aeth Will a Matt ati i sefydlu'r busnes, gyda Will yn ymdrin â materion busnes a Matt fel y prif ddylunydd gerddi, y ddau yn canolbwyntio'n fawr ar weithio mewnp artneriaeth â chleientiaid i ddod o hyd i atebion garddio a oedd yn addas ar eu cyfer.
Parhaodd Will:
“Lledodd enw da ein gwaith yn gyflym, ac roedd busnes yn ffynnu mewn cyfnod gymharol fyr. Dyma wnaeth ein hysgogi i geisio codi arian i wneud y naid i gyflogi mwy o bobl, tra hefyd yn buddsoddi mewn offer newydd.”
Mae’r cyllid gan Fenthyciadau Busnes BCRS wedi galluogi Green Dream Concepts, trwy bartneriaeth gyda Bella Chandler o Serco Group sy’n gweithio gyda PeoplePlus, i gyflogi tri aelodnewydd o staff, tra’u bod hefyd wedi newid o betrol i offer trydan a phrynu fan newydd.
Ychwanegodd Will:
“Mae’r cyllid hwn wedi dod â chymaint o bethau cadarnhaoli ni. Nid yn unig y mae wedi caniatáu i ni fuddsoddi mewnasedau i'n galluogi i ehangu ein gweithrediadau, ond maewedi golygu y gallwn gyflogi mwy o bobl. Drwy greu’r swyddihyn, gallwn dyfu ein contractau cynnal a chadw, tra bod modd i mi a Matt ganolbwyntio ar y prosiectau dylunio gerddimwy, sydd, oherwydd eu natur, yn dod â mwy o refeniw i mewn.
“Bu’r tîm ym Menthyciadau Busnes BCRS yn gweithio gyda ni i wir ddeall ein cynlluniau busnes a thwf i sicrhau cyllid a oedd yn iawn i ni. Mae pobl yn dweud mai tair blynedd gyntaf unrhyw fusnes yw'r anoddaf, ond rydym yn teimlo ein bod wedi gosod sylfeini cadarn ac yn awr yn edrych ymlaen at weld sut yr ydym yn tyfu. Ni fyddem wedi gallu gwneud hyn heb y cyllid.”
Cefnogodd Niki Haggerty-James, Rheolwr Datblygu Busnes ym Menthyciadau Busnes BCRS, Green Dream Concepts a dywedodd:
“Roeddem yn falch iawn o gefnogi Green Dream Concepts i gael mynediad at gyllid i alluogi’r busnes i dyfu mewn ffordd gynaliadwy.
“Mae BCRS yn fenthyciwr sy’n seiliedig ar stori, ac rydym yn cefnogi busnesau sy’n aml yn ei chael hi’n anodd cael gafaelar gyllid drwy lwybrau traddodiadol. Rydym yn ymfalchïo yn ein cefnogaeth bwrpasol ac yn seilio ein penderfyniadau ar y busnes ei hun, nid sgorau credyd cyfrifiadurol. Mae Green Dream Concepts wedi cyflawni llawer mewn cyfnod cymharol fyr, ac rwy’n edrych ymlaen at weld eu twf parhaus.”
Dywedodd Mark Sterritt, Cyfarwyddwr Cronfeydd Buddsoddi’r Gwledydd a’r Rhanbarthau ym Manc Busnes Prydain:
“Lansiwyd Cronfa Fuddsoddi i Gymru gwerth £130m i gefnogi busnesau llwyddiannus ac uchelgeisiol fel Green Dream Concepts wrth iddynt geisio ehangu a chyflawni eu nodau busnes.
“Dymunwn bob llwyddiant i Will a Matt a gobeithio y bydd y buddsoddiad hwn o £25,000 gan Gronfa Fuddsoddi Cymru, a ddarperir drwy Fenthyciadau Busnes BCRS, yn cyfrannu at eu twf parhaus”.
Mae Cronfa Fuddsoddi i Gymru a gefnogir gan Fanc Busnes Prydain yn gweithredu ar draws Cymru gyfan ac yn cynnwys ystod o opsiynau cyllid gyda benthyciadau o £25,000 i £2 filiwn a buddsoddiadau ecwiti hyd at £5 miliwn i helpu busnesau bach a chanolig i gychwyn, cynyddu neu aros ar y blaen. Mae Benthyciadau Busnes BCRS yn rheoli'r rhan benthyciadau llai o'r gronfa (£25,000 i £100,000). Bydd FW Capital yn gyfrifol am fenthyciadau mwy (£100,000 i £2 filiwn) a Foresight fydd yn rheoli bargeinion ecwiti (hyd at £5 miliwn).
Mae Cronfa Fuddsoddi i Gymru yn helpu i gynyddu cyflenwad ac amrywiaeth cyllid cyfnod cynnar drwy ddarparu opsiynau ifusnesau llai na fyddent o bosibl yn cael buddsoddiad fel arall. Mae'r cyllid wedi'i gynllunio i helpu busnesau gyda gweithgareddau gan gynnwys ehangu, arloesi cynnyrch neu wasanaeth, prosesau newydd, datblygu sgiliau, ac offercyfalaf.
Ar ôl gweithio gyda busnesau bach a chanolig nad ydynt yngallu cael gafael ar gyllid o ffynonellau traddodiadol yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr ers 2002, mae Benthyciadau Busnes BCRS wedi ehangu i Gymru i helpu busnesau llai yno i ddatblygu a ffynnu dan y gronfa, a lansiwyd yn swyddogol yng Nghaerdydd ym mis Tachwedd.
Ers sefydlu Benthyciadau Busnes BCRS fel sefydliad ariannol datblygu cymunedol yn 2002, mae wedi darparu benthyciadau gwerth dros £85 miliwn i fusnesau ledled Gorllewin Canolbarth Lloegr. Dangosodd adroddiad effaith gymdeithasol ar gyfer y flwyddyn ariannol ddiwethaf fod Benthyciadau Busnes BCRS wedi benthyca £6.5 miliwn i 72 o fusnesau, gan ddiogelu 999 o swyddi a chreu 473 o rolau, gan ychwanegu gwerth £33.7 miliwn at economi Gorllewin Canolbarth Lloegr a’r rhanbarth cyfagos.