Nod Troi Treth yn Ddigidol yw ei gwneud yn haws i unigolion a busnesau gael eu treth yn gywir drwy gyflwyno eu treth gan ddefnyddio meddalwedd cyfrifo cydnaws.
Ar hyn o bryd mae mwyafrif y ffurflenni treth yn cael eu cyflwyno gan ddefnyddio porth TAW ar-lein CThEM, sy'n cynnwys rhoi rhifau â llaw ar ddalen. Bydd hwn yn cau i wneud lle ar gyfer y weithdrefn Troi Treth yn Ddigidol newydd.
Busnesau yr effeithir arnynt:
O dan reolau newydd, mae’n ofynnol i fusnesau sydd wedi’u cofrestru ar gyfer TAW sydd â throsiant trethadwy uwchlaw’r trothwy TAW o £85k ddefnyddio’r gwasanaeth Troi Treth yn Ddigidol i gadw cofnodion yn ddigidol a defnyddio meddalwedd i gyflwyno eu ffurflenni TAW o 1 Ebrill 2019.
Gall busnesau sydd wedi’u cofrestru ar gyfer TAW ac sydd â throsiant o lai na £85k hefyd ymrwymo i reolau Troi Treth yn Ddigidol yn wirfoddol, cyn iddo ddod yn orfodol iddynt ym mis Ebrill 2020.
Pam fod hyn yn newid?
Drwy wneud treth yn ddigidol, y gobaith yw y bydd yn:
- Gwella ansawdd cadw cofnodion
- Lleihau'r tebygolrwydd o gamgymeriadau trwy leihau mewnbwn â llaw
- Angen llai o amser i gasglu a mewnbynnu data
- Gwneud y broses yn fwy effeithlon.
Adnoddau defnyddiol i ddysgu mwy am Troi Treth yn Ddigidol:
Cliciwch yma i ddarllen am Troi Treth yn Ddigidol yn uniongyrchol o wefan y Llywodraeth
Mae tri podlediad wedi cael eu rhyddhau i hysbysu pobl am Troi Treth yn Ddigidol. Cliciwch yma i'w gweld.
Efallai ei bod yn werth ceisio cyngor…
Os ydych yn ansicr ynghylch y newid i gyflwyno’ch ffurflenni treth drwy feddalwedd cyfrifo cydnaws, efallai y byddai’n werth cysylltu â chyfrifydd.
Cyfrifwyr Siartredig Blackthorns ymwelodd â’n swyddfa yn ddiweddar i ddweud popeth yr oedd angen i ni ei wybod am y cynllun Troi Treth yn Ddigidol.