Yn rhedeg ers dros ddeng mlynedd, mae’r Black Country Diners’ Club (BCDC) wedi sicrhau enw da am fod yn ddigwyddiad rhwydweithio mawreddog sydd wedi’i hen sefydlu, gan ddenu pobl fusnes blaenllaw o bob rhan o’r rhanbarth.
Rydym yn falch o gyhoeddi mai ein siaradwr gwadd ar gyfer y digwyddiad hwn yw Mark Berrisford-Smith.
Mark Berrisford-Smith yw Pennaeth Economeg busnes bancio masnachol HSBC yn y DU ac mae’n gyfrifol am gynghori’r banc yn y DU a’i gwsmeriaid busnes ar ddatblygiadau yn economïau Prydain a byd-eang.
Dyddiad: Dydd Mawrth 13 Hydref 2015
Amser: 11:45 - 14:00
Lleoliad: Swît Hayward – Stadiwm Molineux, Heol Waterloo, Wolverhampton, WV1 4QR
Gallai hwn fod yn gyfle gwych i roi tocyn i’ch cwsmeriaid a’ch cydweithwyr ar gyfer y digwyddiad poblogaidd hwn, drwy gynnal bwrdd o 10 ar gost o £220.
Fel arall, mae modd archebu tocyn cynrychiolydd unigol am £22.
I archebu lle dilynwch y cyfarwyddiadau ar y gwahoddiad isod:
Edrychwn ymlaen at eich gweld chi yno.