Cronfa Fuddsoddi i Gymru IFW

Benthyciadau Llai

Benthyciadau Llai o £25,000 i £100,000 IFW – BCRS Benthyciadau Busnes Benthyciadau Llai

  • Benthyciadau i Fusnesau Bach
  • I fusnesau newydd neu rai sy’n tyfu

Dim ots a ydych chi’n entrepreneur sydd am ddechrau eich busnes eich hun, ar gyfnod cynnar yn eich datblygiad neu’n fusnes mwy sefydlog sydd eisiau tyfu, mae hi’n gallu bod yn anodd cael gafael ar y cyllid sydd ei angen arnoch. Gallwch ddefnyddio’r Benthyciadau Llai i lenwi’r bwlch ariannu ar gyfer prosiectau twf a datblygiad.

Gyda chefnogaeth Nations and Regions Investment Limited, is-gwmni i British Business Bank plc, mae’r Banc yn fanc datblygu sy’n eiddo’n gyfan gwbl i Lywodraeth EM. Nid yw Nations and Regions Investment Limited na British Business Bank plc wedi’u hawdurdodi na’u rheoleiddio gan yr Awdurdod Rheoleiddio Darbodus (PRA) na’r Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA).