Mae cyhoeddiad Cyllideb y Canghellor am estyniad dwy flynedd i’r Cynllun Benthyciadau Adfer, a lansiwyd yn ystod y pandemig Covid i gefnogi busnesau bach, wedi’i groesawu gan BCRS Business Loans, un o’r Sefydliadau Cyllid Datblygu Cymunedol (SCDCau) â chymhelliant cymdeithasol i ddosbarthu’r arian.
Ers 2020, mae Benthyciadau Busnes BCRS wedi darparu 188 o fenthyciadau Cynllun Benthyciadau Adfer gwerth cyfanswm o £14,742,032 gan greu 926 o swyddi a diogelu 2097 o rolau eraill.
Mae BCRS Business Loans o Wolverhampton yn cynnig benthyciadau i fusnesau bach a chanolig ar draws Gorllewin Canolbarth Lloegr a Chymru nad ydynt yn gallu cael mynediad at gyllid o ffynonellau traddodiadol trwy ddarparu benthyciadau diogel rhwng £10,000 a £150,000 i gefnogi cynlluniau twf ac adferiad.
Meddai Stephen Deakin, Prif Weithredwr, BCRS Business Loans: “Rydym wrth ein bodd y bydd y Cynllun Benthyciadau Adfer (RLS) yn parhau ac yn croesawu cyhoeddiad y Canghellor gan fod y cynllun wedi profi i fod yn arf hanfodol i ddatgloi twf busnesau bach.
“Ein hethos yn BCRS yw na ddylai unrhyw fusnes hyfyw fynd heb ei gefnogi, felly bydd yr estyniad yn caniatáu i SCDCau fel ni roi benthyg i gwmnïau hyfyw nad ydynt yn cael eu gwasanaethu’n ddigonol, llawer ohonynt mewn cymunedau sy’n cael eu llwgu o fuddsoddiad.
“Rydym yn falch bod y Llywodraeth wedi gwrando ar y galwadau gan SCDCau, buddsoddwyr effaith a chynrychiolwyr busnes gan gynnwys ein corff aelodaeth cenedlaethol Responsible Finance i ymestyn y cynllun, sydd wedi sicrhau gwerth am arian.
“Mae angen y cyllid cywir ar fusnesau bach ar yr amser iawn i ddatblygu, cefnogi swyddi a chreu cyfleoedd. Drwy ddarparu £14.7miliwn drwy 188 o fenthyciadau ers 2020, rydym wedi galluogi’r RLS i ddarparu cymorth i fusnesau Gorllewin Canolbarth Lloegr pan oedd ei angen arnynt fwyaf ar adegau o heriau digynsail.
“Bydd gwybod bod y cynllun yn parhau yn galluogi SCDCau i sicrhau mwy o fuddsoddiad, cefnogi mwy o fusnesau bach a chreu swyddi, cyfleoedd a ffyniant mewn cymunedau.”
Daw’r cyhoeddiad gan yr RLS ar ôl i BCRS Business Loans gael ei benodi’n rheolwr cronfa ar gyfer tair cronfa gan gynnwys y Cronfa Buddsoddi Injans Canolbarth Lloegr II, a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf, a fydd yn cyflawni ymrwymiad o £400 millwn o gyllid newydd i fusnesau ar draws Canolbarth Lloegr.
Mae BCRS hefyd yn bartner cyflawni ar gyfer y Gronfa Fuddsoddi gyntaf i Gymru, gwerth £130 miliwn, a lansiwyd ym mis Tachwedd a’r Gronfa Mentrau Buddsoddi Cymunedol gwerth £62 miliwn (CIEF), a gyhoeddwyd ddydd Llun, sydd â’r nod o fuddsoddi mewn 800 o fusnesau bach yn genedlaethol a chefnogi 10,500 o swyddi a yw'r cyntaf i gael ei gefnogi gan fenthyciwr prif ffrwd ym Manc Lloyds.
Ers sefydlu BCRS Business Loans yn 2002, mae wedi darparu benthyciadau gwerth mwy na £85 miliwn i fusnesau. Dangosodd adroddiad effaith gymdeithasol ar gyfer y flwyddyn ariannol ddiwethaf fod BCRS wedi benthyca £6.5 miliwn i 72 o fusnesau, gan ddiogelu 999 o swyddi a chreu 473 o rolau, gan ychwanegu gwerth £33.7 miliwn at economi Gorllewin Canolbarth Lloegr a’r rhanbarthau cyfagos.