Meithrinfa yn agor yn Coed Duon ar ôl cefnogaeth Benthyciadau Busnes BCRS
Mae meithrinfa gofal dydd wedi agor yn Coed Duon ar ôl i £170,000 o gyllid gael ei ddarparu gan Fenthyciadau Busnes BCRS, drwy Gronfa Buddsoddi Cymru o £130m gan Fanc Busnes Prydain a’r Gronfa Mentrau Buddsoddi Cymunedol (CIEF).
Mae Meithrinfa Greenfields Blackwood, sydd wedi’i gofrestru i gymryd 63 o blant hyd at bump oed, wedi agor ar safle hen dafarn y Mason’s Arms ar Stryd y Bont ar ôl i BCRS ddarparu cymorth i alluogi’r perchennog Jason Roberts-Jones i brynu ac adnewyddu’r eiddo i ddiwallu anghenion gofal plant teuluoedd ar draws yr ardal.
Y feithrinfa yw ail safle Greenfields ac mae’n dilyn Greenfields Tŷ-du a agorodd yn 2015.