Mae busnes hunan-storio yn Wrecsam yn adrodd am dwf aruthrol ar ôl i becyn cyllid gan Fenthyciadau Busnes BCRS ei alluogi i ddatblygu rhan fawr o’r tir i ehangu a chartrefu deg uned storio arall a gofod storio carafanau.
Ymunodd Matt Pritchard â busnes melin lifio ei dad ym 1999 ac agorodd weithdy saernïaeth pwrpasol ond gyda chostau pren yn codi, penderfynodd yn 2019 arallgyfeirio i hunan-storio ar ei dir, gan ddefnyddio cynwysyddion llongau wedi’u hail-bwrpasu.
Wrth sefydlu’r busnes, Wynnstay Self Storage Ltd, ar hen safle’r felin lifio deuluol yn Rhiwabon mae Matt wedi trawsnewid rhan fawr o’r tir 2-erw yn safle hunan-storio sydd bellach yn gartref i 60 o unedau storio, ynghyd â lleiniau ar gyfer 80 o garafannau a chartrefi modur, ac mae ganddo bellach gynlluniau i dyfu’r busnes ymhellach.
Mae Matt yn esbonio:
“Fi sy’n berchen ar y tir felly roedd penderfynu ei ddefnyddio’n dda yn gwneud llawer o synnwyr busnes.Cysylltais â BCRS i weld a allent ddarparu’r cyllid i ganiatáu i mi roi’r seilwaith i gadw’r cynwysyddion, tra hefyd yn prynu’r unedau storio eu hunain.
“Roedd delio â James yn BCRS yn syml, a chymerodd amser i ddeall y cynnig busnes. Ar ôl sicrhau’r cyllid prynais ddeg uned ychwanegol ac rwy’n falch o ddweud ein bod wedi bod yn gweithredu i’r eithaf ers hynny.”
Gyda busnes yn ffynnu, mae Matt wedi cyflogi ceidwad llyfrau rhan-amser ac mae ganddo gynlluniau i ehangu ymhellach.
Dwedodd ef:
“Rydym wedi bod yn ffodus – y mwyaf rydym wedi’i wario ar farchnata yw £14 ar gyfer hysbyseb cyfryngau cymdeithasol – mae’r busnes wedi dod ar lafar gwlad gan mwyaf!
“Mae’r safle’n llawn ac mae gennym ni le pellach i’w ddatblygu felly mae hyn yn rhan o’r cam twf nesaf i’r busnes. Rwy’n gwybod bod y galw yno gan fod gennym gymysgedd o gwsmeriaid tymor byr a hirdymor, ac os daw lle ar gael, mae’n cael ei gymryd o fewn wythnos.
“Mae'n braf gweld y tir yn cael ei ddefnyddio'n fwy effeithlon ac rwyf wrth fy modd i weld sut mae'r cyllid hwn wedi agor drysau i gwsmeriaid yn llythrennol. Rwy'n edrych ymlaen at weld beth ddaw yn y bennod nesaf.”