Busnes dyframaeth Cymru yn dathlu 10 mlynedd ers hwb gan Gronfa Buddsoddi Cymru

Mae busnes yn Hirwaun, sy’n darparu cymorth ymchwil a datblygu i gwmnïau dyframaeth yn fyd-eang, yn dathlu ei 10fed ac mae bellach yn gallu edrych i’r dyfodol ar ôl derbyn pecyn cyllid gan Fenthyciadau Busnes BCRS drwy’r gronfa Benthyciadau Busnes Llai, Cronfa Fuddsoddi i Gymru.

Hyd at 2020, roedd Pontus Research, sydd wedi’i leoli ar Ystâd Ddiwydiannol Hirwaun, wedi profi twf trwy gyllid dyled ar raddfa fach, a gyda’r cwmni ar lwybr parhaus rhagamcanol ar i fyny, rhagwelwyd y byddai 2020 yn flwyddyn ganolog, gyda buddsoddi £1.2 miliwn mewn prynu a datblygu eiddo gweithredu newydd a chyfleuster ymchwil. Fodd bynnag, tarodd y pandemig, a theimlwyd yr effeithiau ledled y diwydiant tan yn ddiweddar.

Sefydliad ymchwil contract yw Pontus Research, sy'n darparu cymorth ymchwil a datblygu i gwmnïau ledled y byd sy'n datblygu porthiant a chynhwysion porthiant ac ychwanegion ar gyfer dyframaethu. Mae'n cynnal treialon o ansawdd uchel gydag ystod eang o rywogaethau dan amrywiaeth o amodau, o ddŵr oer i ddŵr cynnes, ac o ddŵr môr ffres i ddŵr môr cryfder llawn.

Mae'r Sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol, Jack James, yn esbonio:“Hyd at y pandemig roedd y busnes yn cyrraedd ei holl dargedau – roedden ni wedi codi £1.2 miliwn o fuddsoddiadau ecwiti preifat, arian grant o Gronfa’r Môr a Physgodfeydd Ewrop a chyllidwyr dyledion preifat a chyhoeddus. Fodd bynnag, daeth prynu’r safle 2,600 metr sgwâr ynghyd ag adeilad 1,000 metr sgwâr, a’r buddsoddiad dilynol, ar adeg na allai neb fod wedi’i rhagweld, ac rydym wedi bod yn gweithio’n galed i gael sefydlogwerydd byth ers hynny.

“Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf mae’r darnau wedi bod yn ffitio i’w lle yn araf deg, ond mae llif arian wedi parhau i fod yn broblem i ni. Yn syml, ychydig fisoedd yn ôl doeddwn i ddim yn gallu gweld dyfodol agos lle’r oedd y cwmni’n ddigon iach i wirioneddol ddathlu ein carreg filltir ddeng mlynedd.”

Mae Jack wedi bod yn gweithio'n galed i amddiffyn y busnes, a'i 14 o weithwyr medrus a gwerthfawr iawn, tra hefyd yn gwireddu'r cyfleoedd ar gyfer twf. Argymhellwyd Jack i gysylltu â BCRS Business Loans, un o dri rheolwr cronfa ar gyfer Cronfa Fuddsoddi Cymru.

Bu Rheolwr Datblygu Busnes BCRS De Cymru, Graeme Lewis, yn gweithio’n agos gyda Jack i sicrhau pecyn cyllid o £80,000 gan Gronfa Fuddsoddi i Gymru, a lansiwyd gan Fanc Busnes Prydain ddiwedd 2023.

Parhaodd Jack: “Rydyn ni’n gwybod, wrth gael mynediad at yr ecwiti yn yr adeilad, ein bod ni’n sicrhau dyfodol Pontus Research. Dywedodd profiad blaenorol o weithio gyda chyllidwyr wrthym y byddai hyn yn cymeryd amser, felly roedd gweithio gyda BCRS yn chwa o awyr iach - deliwyd â phopeth mewn modd mor broffesiynol, ac roeddent yn gyflym i gymryd yr amser i ddeall y busnes. Roedd angen hylifedd arnom yn y tymor byr, ac roedd BCRS yn gallu cyflawni hynny, yn gyflym gyda chefnogaeth a chymorth amhrisiadwy gan Kevin yn Cornerstone Finance.”

 “Roedd Graeme yn BCRS yn wych, yn deall y sefyllfa tymor byr a oedd yn ein hwynebu ac o fewn wythnosau cawsom y newyddion cadarnhaol bod cyllid wedi’i sicrhau.”

 Wrth gael y pecyn cyllid mae Pontus Research wedi diogelu holl swyddi gweithwyr, tra'n rhoi'r cymorth sydd ei angen ar y busnes i gynllunio ar gyfer y bennod nesaf o dwf.

Ychwanegodd Jack: “Mae’r derbyn y cyllid hwn, nawr , wedi bod yn bwysig iawn. Mae llif arian i unrhyw fusnes yn broblem enfawr ac ni allai neb fod wedi rhagweld y pandemig a faint y byddai'n effeithio arnom ni, ynghyd â miliynau o fusnesau eraill. Ond yn awr, ar ôl y pandemig ac ar ôl sicrhau’r arian hwn, rwy’n edrych ymlaen at gael y busnes i’r sefyllfa y dylai fod ynddi.

 “Mae gennym ni nifer fawr o brosiectau ymchwil ar y gweill, a rhagwelir y bydd ein hymestyniad diweddar a’n hychwanegiad o felin borthiant ar raddfa ymchwil yn cynyddu ein sylfaen cwsmeriaid ar gyfer gwaith ymchwil a datblygu a chynhyrchu porthiant. Ochr yn ochr â hyn, rydym yn datblygu ôl troed yn Asia, ar ôl agor canolfan yn Singapôr a gweithredu hynny’n llwyddiannus am dros ddwy flynedd.

 “Ni allaf ddiolch digon i BCRS a Banc Busnes Prydain am eu cefnogaeth ac rwy’n hynod gyffrous i weld sut mae’r busnes yn datblygu, yng Nghymru a thramor.”

Meddai Graeme Lewis, Rheolwr Datblygu Busnes yn Benthyciadau Busnes BCRS: : “Daeth Pontus Research atom ar adeg a oedd yn holl bwysig, ac roeddem hapus iawn i weithio gyda Jack i ddod o hyd i ateb ariannol sy’n gweithio ac a fyddai o fudd i’r busnes yn y tymor byr, a’r hirdymor. Rydym wrth ein bodd bod y cyllid hwn wedi rhoi’r byffer yr oedd ei angen ar Jack i ddiogelu ei fusnes.

“Mae BCRS yn fenthyciwr sy’n seiliedig ar stori, ac rydym yn cefnogi busnesau sy’n aml yn ei chael hi’n anodd cael mynediad at gyllid trwy lwybrau traddodiadol. Rydym yn ymfalchïo yn ein cefnogaeth bwrpasol ac yn seilio ein penderfyniadau ar y busnes ei hun, nid ar sgorau credyd cyfrifiadurol.”

Ychwanegodd Bethan Bannister, Uwch Reolwr Buddsoddi, Cronfeydd y Gwledydd a’r Rhanbarthau ym Manc Busnes Prydain: “Mae’r Gronfa Fuddsoddi i Gymru gwerth £130m yno i gefnogi busnesau Cymru sydd ag uchelgeisiau twf i wireddu eu nodau. Roedd y pandemig wedi golygu bod Pontus Research wedi profi ambell i dwmpath ar hyd y ffordd, ond gyda chefnogaeth BCRS a Chronfa Fuddsoddi i Gymru mae ganddynt bellach lwybr clir ymlaen at raddfa a thyfu. Edrychwn ymlaen at weld eu llwyddiant parhaus.”

Mae Cronfa Fuddsoddi i Gymru a gefnogir gan Fanc Busnes Prydain yn gweithredu ar draws Cymru gyfan ac yn cynnwys ystod o opsiynau cyllid gyda benthyciadau o £25,000 i £2 filiwn a buddsoddiadau ecwiti hyd at £5 miliwn i helpu busnesau bach a chanolig i gychwyn, cynyddu neu aros ar y blaen. Mae Benthyciadau Busnes BCRS yn rheoli'r rhan benthyciadau llai o'r gronfa (£25,000 i £100,000). Bydd FW Capital yn gyfrifol am fenthyciadau mwy (£100,000 i £2 filiwn) a Foresight fydd yn rheoli bargeinion ecwiti (hyd at £5 miliwn).

Mae Cronfa Fuddsoddi i Gymru yn helpu i gynyddu cyflenwad ac amrywiaeth cyllid cyfnod cynnar drwy ddarparu opsiynau i fusnesau llai, na fyddent efallai’n cael buddsoddiad fel arall. Mae’r cyllid wedi'i gynllunio i helpu busnesau gyda gweithgareddau gan gynnwys ehangu, arloesi cynnyrch neu wasanaeth, prosesau newydd, datblygu sgiliau, ac offer cyfalaf.

Ar ôl gweithio gyda busnesau bach a chanolig nad ydynt yngallu cael gafael ar gyllid o ffynonellau traddodiadol yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr ers 2002, mae Benthyciadau Busnes BCRS wedi ehangu i Gymru i helpu busnesau llai yno i ddatblygu a ffynnu dan y gronfa, a lansiwyd yn swyddogol yng Nghaerdydd ym mis Tachwedd.

Ers sefydlu BCRS fel sefydliad ariannol datblygu cymunedol yn 2002, mae wedi darparu benthyciadau gwerth mwy na £90 miliwn i fusnesau ar draws Gorllewin Canolbarth Lloegr a Chymru. Dangosodd adroddiad effaith gymdeithasol ar gyfer y flwyddyn ariannol ddiwethaf fod BCRS wedi benthyca £5.8m i 72 o fusnesau, gan ddiogelu 675 o swyddi a chreu 186 o rolau, gan ychwanegu gwerth £29.9m at economi Gorllewin Canolbarth Lloegr, y rhanbarthau cyfagos a Chymru.

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

Llenwch y maes hwn
Llenwch y maes hwn
Rhowch gyfeiriad e-bost dilys.