Mae busnes ym Merthyr Tudful ar y llwybr i fyny, gan gornelu bwlch yn y diwydiant modurol, ar ôl sicrhau pecyn cyllid drwy’r Gronfa Fuddsoddi i Gymru, sydd wedi caniatáu iddynt fuddsoddi mewn hyfforddiant staff i gyflwyno technoleg flaengar a allai arbed miloedd o bunnoedd i yrwyr.
Mae Screen Genie, sydd wedi'i leoli ar Ystâd Ddiwydiannol Pant, wedi bod yn masnachu ers 2016, gan atgyweirio neu amnewid gwydr cerbyd yn wreiddiol. Fodd bynnag, gyda'r rhan fwyaf o geir modern wedi'u cyfarparu â Systemau Cynorthwyo Gyrwyr Uwch (ADAS), gwelodd y Cyfarwyddwr Matt O'Keefe y posibilrwydd o dwf busnes wrth ymgymryd ag atgyweiriadau arloesol y tu hwnt i adfer ffenestr flaen. Ar ôl sicrhau cyllid a arweiniodd at fuddsoddi mewn hyfforddi staff, mae’r busnes wedi mynd ymlaen i sicrhau contract newydd ac wedi ymuno â’r Grŵp Atgyweirio Arloesol (IRG) lle maent bellach yn gwneud gwaith sy’n bwydo drwodd o’u chwe garej ar draws de Cymru.
Esboniodd y Cyfarwyddwr Matt O'Keefe:
“Mae ein busnes wedi bod yn tyfu’n gyson ers 2016 ac rydym wedi gosod cannoedd o ffenestri blaen ceir ar draws De Cymru. Fodd bynnag, gyda’r rhan fwyaf o geir modern wedi’u cyfarparu ag ADAS, fel cymorth lôn a brecio brys awtomatig, gwelsom fwlch yn y farchnad i sicrhau bod gyrwyr yn ddiogel, ac wedi’u hamddiffyn trwy eu hyswiriant, trwy gael graddnodi eu cerbydau ar ôl unrhyw waith cynnal a chadw.”
Yn gynharach eleni argymhellwyd i Matt gysylltu â BCRS Business Loans, a bu’n gweithio gyda Rheolwr Datblygu Busnes De Cymru, Niki Haggerty-James. Drwy’r berthynas hon llwyddodd Screen Genie i gael pecyn cyllid gwerth £25,000 gan BCRS Business Loans, rheolwr ariannu Cronfa Buddsoddi i Cymru, a lansiwyd gan Fanc Busnes Prydain ddiwedd 2023.
Mae'r cyllid wedi caniatáu i Screen Genie fuddsoddi mewn hyfforddi'r pedwar aelod o staff i'r achrediad ADAS uchaf, gan ganiatáu iddynt wneud gwaith ar gerbydau i ddarparu gwasanaeth ail-raddnodi llawn.
Parhaodd Matt:
“Mae’r cyllid hwn wedi rhoi hwb i botensial y busnes, ac rydym i gyd bellach wedi’n hyfforddi i ddarparu’r gwasanaeth hwn i helpu i gadw pobl yn ddiogel ar y ffyrdd. Gyda thechnoleg modurol yn symud ymlaen mor gyflym mae'n hanfodol bod gyrwyr yn deall pwysigrwydd cynnal a chadw eu cerbydau i'r safonau uchaf.
“Mae yna ardal lwyd o amgylch ADAS, gyda llawer o bobl ddim yn sylweddoli, os ydyn nhw'n gwneud gwaith cynnal a chadw ar eu cerbyd, bod angen iddyn nhw ei ail-raddnodi i aros yn ddiogel, neu mae eu hyswiriant yn debygol o fod yn annilys, sy'n golygu y gallent fod yn filoedd o bunnoedd allan o boced.
“Rydym yn falch bod Niki a’r tîm yn BCRS wedi gweld y potensial yn ein cynlluniau twf busnes ac wedi gweithio gyda ni i sicrhau’r cyllid hwn.
“Rydym bellach yn un o ddim ond tair garej yng Nghymru gyfan sy’n gallu cyflawni gwaith cynnal a chadw ADAS ac rydym yn obeithiol y bydd y cyfle hwn yn caniatáu inni barhau i elwa ar dwf. Fel busnes rydym yn buddsoddi yn ein staff ac mae'r cyllid hwn wedi ein galluogi i wneud hyn drwy hyfforddiant. Wrth i Screen Genie barhau i dyfu, bydd y cam nesaf yn cynnwys cyflogi mwy o staff.”
Dywedodd Niki Haggerty-James, Rheolwr Datblygu Busnes yn BCRS Business Loans:
“Mae Screen Genie wedi datblygu busnes cadarn wrth atgyweirio ffenestri blaen ceir ac felly pan ddaeth Matt atom yn chwilio am gefnogaeth i gyflawni ei gynlluniau twf uchelgeisiol, roeddem yn hapus i weithio gyda’n gilydd i archwilio’r cyfleoedd a sicrhau’r cyllid.
“Mae BCRS yn fenthyciwr sy’n seiliedig ar stori, ac rydym yn cefnogi busnesau sy’n aml yn ei chael hi’n anodd cael mynediad at gyllid trwy lwybrau traddodiadol. Rydym yn ymfalchïo yn ein cefnogaeth bwrpasol ac yn seilio ein penderfyniadau ar y busnes ei hun, nid ar sgorau credyd cyfrifiadurol.”
Ychwanegodd Bethan Bannister, Uwch Reolwr Buddsoddi, Cronfeydd Buddsoddi’r Cenhedloedd a’r Rhanbarthau, Banc Busnes Prydain:
“Lansiwyd Cronfa Fuddsoddi i Gymru i gefnogi busnesau fel Screen Genie yn eu huchelgeisiau i ehangu a thyfu. Mae Matt wedi nodi’n glir fod bwlch yn y farchnad o ran cynnig cynhaliaeth ADAS i fodurwyr, nad yw ar gael i raddau helaeth yng Nghymru, ac rydym yn falch bod y cyllid wedi’i ryddhau iddo er mwyn helpu i wireddu ei nodau busnes.”
Mae Cronfa Fuddsoddi i Gymru a gefnogir gan Fanc Busnes Prydain yn gweithredu ar draws Cymru gyfan ac yn cynnwys ystod o opsiynau cyllid gyda benthyciadau o £25,000 i £2 filiwn a buddsoddiadau ecwiti hyd at £5 miliwn i helpu busnesau bach a chanolig i gychwyn, cynyddu neu aros ar y blaen. Mae Benthyciadau Busnes BCRS yn rheoli'r rhan benthyciadau llai o'r gronfa (£25,000 i £100,000). Bydd FW Capital yn gyfrifol am fenthyciadau mwy (£100,000 i £2 filiwn) a Foresight fydd yn rheoli bargeinion ecwiti (hyd at £5 miliwn).
Mae Cronfa Fuddsoddi i Gymru yn helpu i gynyddu cyflenwad ac amrywiaeth cyllid cyfnod cynnar drwy ddarparu opsiynau i fusnesau llai, na fyddent efallai’n cael buddsoddiad fel arall. Mae’r cyllid wedi'i gynllunio i helpu busnesau gyda gweithgareddau gan gynnwys ehangu, arloesi cynnyrch neu wasanaeth, prosesau newydd, datblygu sgiliau, ac offer cyfalaf.
Ar ôl gweithio gyda busnesau bach a chanolig nad ydynt yngallu cael gafael ar gyllid o ffynonellau traddodiadol yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr ers 2002, mae Benthyciadau Busnes BCRS wedi ehangu i Gymru i helpu busnesau llai yno i ddatblygu a ffynnu dan y gronfa, a lansiwyd yn swyddogol yng Nghaerdydd ym mis Tachwedd.