Ymunodd Louise â Benthyciadau Busnes BCRS ar ôl gyrfa helaeth yn y sector bancio.
“Rwy’n edrych ymlaen at allu dweud ‘ie’ wrth BBaChau hyfyw, deall beth maen nhw’n ei wneud a dod o hyd i ffyrdd o’u helpu.
“Rydym yn deall y gall cael gafael ar gyllid fod yn broblem weithiau a byddwn yn annog unrhyw fusnes i gysylltu â ni os ydynt yn cael anhawster i godi rhywfaint neu’r cyfan o’r cyllid sydd ei angen arnynt.”
Meysydd dan sylw:
Dyma feysydd allweddol Louise Birmingham a'r Cyffiniau ond i'n cwsmeriaid a'n cydweithwyr proffesiynol fel ei gilydd mae hi'n fwy na pharod i deithio ar hyd a lled Gorllewin Canolbarth Lloegr.
Hwyl:
Mae Louise yn mwynhau gwylio chwaraeon, yn enwedig pêl-droed, criced a rygbi. Mae’r Chwe Gwlad yn hwyl ar ei haelwyd gan fod Louise yn Gymraes, ei merch yn Saesnes, a’i gŵr yn Wyddel, felly mae digon o dynnu coes yn ystod y gemau.
Fel y rhan fwyaf o'r genedl, mae Louise yn gefnogwr gwallgof o Games of Thrones ac yn tueddu i'w wylio gyda gwydraid o win wrth ei hochr.
Ar benwythnosau mae Louise yn mwynhau rhoi cynnig ar wahanol ryseitiau coginio sydd fel arfer yn cynnwys llawer o sbeisys a chillis ysbryd!