Mae LearnPlay Foundation yn gwmni cyfryngau digidol creadigol a hyfforddi sydd wedi'i leoli yn Wolverhampton. Roedd sicrhau £100,000 wedi galluogi’r cwmni i ddiogelu 57 o swyddi a rhoi ffyrdd eraill ar waith o gyflawni contractau y torrwyd arnynt yn ystod y pandemig.
Dywedodd y Rheolwr Gyfarwyddwr Ro Hands:
“Yn ogystal â bod yn ymroddedig i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl, mae LearnPlay bellach yn gartref i dasglu cyfryngau, rhaglennu a hyrwyddo llwyddiannus, yn gweithio gyda siopau fel Tesco, yr Asiantaeth Priffyrdd a siopau lleol.
“Gan ei fod yn wasanaeth wyneb yn wyneb yn draddodiadol, roedd cyllid yn galluogi’r cwmni i fuddsoddi mewn cynyddu ei gynnig o bell trwy ddatblygu sesiynau hyfforddi ac asesiadau y gellir eu cynnal yn rhithwir.”